Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Health and Social Care Committee

 

 

 

 

 

 

 

 

                   

                                         

                 24 Hydref 2011

 

 

Annwyl Gyfaill

 

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n cynnal ymchwiliad iofal preswyl i bobl hŷn. Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

Ymchwilio i’r ddarpariaeth o ofal preswyl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall fodloni anghenion presennol pobl hŷn a’u hanghenion ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys:

-          y broses a ddilynir gan bobl hŷn wrth iddynt fynd i ofal preswyl ac argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau amgen yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau ailalluogi a gofal yn y cartref.

-          gallu’r sector gofal preswyl i fodloni’r gofyn am wasanaethau gan bobl hŷn o ran adnoddau staffio, gan gynnwys y sgiliau sydd gan staff a’r hyfforddiant sydd ar gael iddynt, nifer y lleoedd a’r cyfleusterau, a lefel yr adnoddau.

-          ansawdd gwasanaethau gofal preswyl a phrofiadau defnyddwyr gwasanaethau a’u teuluoedd; effeithiolrwydd gwasanaethau o ran bodloni’r amrywiol anghenion ymhlith pobl hŷn; a rheolaeth ar gau cartrefi gofal.

-          effeithiolrwydd trefniadau rheoleiddio ac archwilio ar gyfer gofal preswyl, gan gynnwys y cwmpas ar gyfer craffu mwy ar hyfywdra ariannol darparwyr gwasanaethau.

-          darpariaeth o fodelau gofal newydd sy’n dod i’r amlwg

-          y cydbwysedd rhwng darpariaeth yn y sector cyhoeddus a’r sector annibynnol, a modelau ariannu, rheoli a pherchnogaeth amgen, fel y rheini a gynigir gan y sector gydweithredol a chydfuddiannol, y trydydd sector,  a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Mae’r Pwyllgor wedi penderfynu canolbwyntio’r ymchwiliad ar ofal preswyl, ond mae’n anochel y bydd trafodion yn cyffwrdd â materion sy’n ymwneud â gofal nyrsio. Mae’r Pwyllgor hefyd wedi cytuno i ganolbwytio ei sylw y gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn.

 

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Mae’r Pwyllgor yn croesawu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, rhowch ddisgrifiad byr o swyddogaeth eich sefydliad.

 

Byddwn yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor y gwanwyn 2012, felly byddai’n ddefnyddiol pe gallech nodi yn eich cyflwyniad a fyddech yn barod i roi tystiolaeth lafar, pe byddem yn eich gwahodd i wneud hynny.

 

Yn gyffredinol, byddwn yn gofyn am gyflwyniadau ysgrifenedig oherwydd mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi’r dystiolaeth a gyflwynir i’r Pwyllgor ar ein gwefan fel bod cofnod cyhoeddus ohoni. Fodd bynnag, gallwn hefyd dderbyn tystiolaeth mewn fformat sain neu fideo. Gellir cyflwyno tystiolaeth yn Gymraeg neu yn Saesneg, ond rydym yn gofyn bod sefydliadau sydd â Chynlluniau Iaith Gymraeg yn darparu ymatebion dwyieithog, lle bo hynny’n berthnasol, yn unol â’u polisïau.

 

Os hoffech gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig o’ch cyflwyniad at HSCCommittee@wales.gov.uk.

 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at: Clerc y Pwyllgor, Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Bae Caerdydd, CF99 1NA.

 

Dylai cyflwyniadau ddod i law erbyn dydd Gwener 16 Rhagfyr 2011. Efallai na fydd modd i ni ystyried ymatebion a dderbynnir ar ôl y dyddiad hwn.

 

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gwahodd cyflwyniadau gan y rheini sydd ar y rhestr ddosbarthu sydd ynghlwm. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno barn.

 

Datgelu Gwybodaeth

 

Mae’n arferol i’r Cynulliad Cenedlaethol gyhoeddi tystiolaeth a ddarperir i ymchwiliad/bwyllgor. O ganlyniad, efallai y bydd eich ymateb yn ymddangos mewn adroddiad neu mewn tystiolaeth ategol sy’n rhan o adroddiad. Ni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cyhoeddi gwybodaeth a ystyrir yn ddata personol.

 

Os ceir cais am wybodaeth a gyflwynwyd o dan ddeddfwriaeth y DU, efallai y bydd angen datgelu’r wybodaeth a ddarperir gennych. Gall hyn gynnwys gwybodaeth a ddilëwyd cyn hynny gan y Cynulliad Cenedlaethol at ddibenion cyhoeddi.

 

Os byddwch yn darparu unrhyw wybodaeth, ac eithrio data personol, nad yw’n addas i’w datgelu i’r cyhoedd yn eich barn chi, eich penderfyniad chi yw nodi pa rannau na ddylid eu cyhoeddi a rhoi dadl resymol dros hyn. Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn ystyried hyn wrth gyhoeddi gwybodaeth neu wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth.

 

Yn gywir

 

Description: MarkSignature

Mark Drakeford AC / AM

Cadeirydd / Chair

 


 

Rhestr ddosbarthu

 

Byrddau Iechyd

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg

Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf

Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda

Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys

 

Ymddiriedolaethau Iechyd

Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymddiriedolaeth GIG Felindre

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

 

 

Cynghorau Iechyd Cymuned

Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned Cymru

Cyngor Iechyd Cymuned Abertawe Bro Morgannwg

Cyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan

Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr

Cyngor Iechyd Cymuned Brycheiniog a Maesyfed

Cyngor Iechyd Cymuned Caerdydd a’r Fro

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf

Cyngor Iechyd Cymuned Hywel Dda

Cyngor Iechyd Cymuned Sir Drefaldwyn

 

Cynghorau

Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Cyngor Caerdydd

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyngor Sir Ceredigion

Cyngor Dinas a Sir Abertawe

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyngor Sir Ddinbych

Cyngor Sir y Fflint

Cyngor Gwynedd

Cyngor Sir Ynys Môn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful

Cyngor Sir Fynwy

Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot

Cyngor Dinas Casnewydd

Cyngor Sir Penfro

Cyngor Sir Powys

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Cyngor Bro Morgannwg

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

 

 

Asiantaethau Swyddogol

Cyngor Gofal Cymru

Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW)

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Yr Asiantaeth Diogelu Iechyd

Atebion Iechyd Cymru

Y Sefydliad Iechyd Gwledig

Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru

Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol

Yr Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Yr Asiantaeth Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol

Swyddfa Archwilio Cymru

Bwrdd yr Iaith Gymraeg

 

Cyrff proffesiynol

Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru

Cymdeithas Gweithwyr Cymdeithasol Prydain yng Nghymru

Cymdeithas Feddygol Prydain (Cymru)

Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi

Coleg y Therapyddion Galwedigaethol

Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Coleg Brenhinol y Ffisigwyr

Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru

Conffederasiwn GIG Cymru

 

Sector Gwirfoddol

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Gweithredu ar Golli Clyw Cymru

Age Cymru

Age Cymru – Prosiect “Fy mywyd cartrefol i”

Cynghrair Henoed Cymru

Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan

Cymdeithas Alzheimers

Anheddau Cyf

Cynhalwyr Cymru

Gofal a Thrwsio Cymru

Canolfan Genedlaethol Byw'n Annibynnol

Cyngor ar Bopeth Cymru

Gofal Croesffyrdd

Cymorth Cymru

Dementia UK

Dignified Revolution

Anabledd Cymru

Hafal

Cymorth Canser Macmillan

Cymdeithas Cenedlaethol yr Henoed

Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru

Cynghrair Eiriolaeth Pobl Hŷn

Parkinson’s UK Cymru

Fforwm Pensiynwyr Cymru

Y Lleng Brydeinig

Y Sefydliad Gofal Cymdeithasol er Rhagoriaeth

Stonewall Cymru

Ymddiriedolaeth y Dywysoges Frenhinol i Ofalwyr

The Disability Can Do Organisation

Cynghrair Cynhalwyr Cymru

Senedd Pobl Hŷn Cymru

Rhwydwaith Gweithwyr Gofal Cymru

Cynghrair Ailalluogi Cymru

Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol y Merched

 

Darparwyr tai, y sector annibynnol a chyrff cynrychiadol

Cymdeithasol Rheolwyr Tai Ymddeol

Fforwm Gofal Cymru

Canolfan Tai a Chymorth

Cymdeithas Gofal Cartref Cymru

EroSH

Cymdeithas Genedlaethol Gofal

Cymdeithas Gofal Gogledd Cymru

Cymdeithas Cartrefi Nyrsio Cofrestredig

Cymdeithas Gofal Cymdeithasol

Cymdeithas Gofal Cartref y DU

Tai Melin

Tai Abbeyfield

Linc Cymru

Tai Cymoedd i'r Arfordir

Grŵp Seren

Grŵp Tai Pennaf

Sefydliad Tai Siartredig Cymru

Cymdeithas Gofal Hafod

Cartrefi Cymunedol Cymru

Cymdeithas Tai Teuluol (Cymru)

 

Academia

Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru (WIHSC)

Prifysgol Bangor - Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol

Prifysgol Abertawe - Canolfan Heneiddio Arloesol

Canolfan Ymchwil Gwaith Gofal Cymdeithasol

Sefydliad Ymchwil Meddygaeth a Gofal Cymdeithasol – Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru

Prifysgol Caerdydd

Canolfan Ymchwil Cyfathrebu Iechyd

OPAN Cymru

 

Partneriaethau Gofal Cymdeithasol Rhanbarthol

De Ddwyrain Cymru

De Orllewin Cymru

Gogledd Cymru

Canolbarth Cymru

 

Undebau Llafur

UNSAIN

Unite

TUC Cymru

 

Eraill

Canolfan Cydweithredol Cymru

Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgorau Cynghorol Statudol Iechyd Llywodraeth Cymru

Cydlynwyr Strategaeth Pobl Hŷn

Cydlynwyr Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru

Cydlynwyr Strategaeth Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Lles

Barrie W Cooper (Ymddiriedolwr, Age Concern Caerdydd a Bro Morgannwg)

Dr Angie Ash

David and Hilda Smith